Capel yr Undodiaid Penrhiw

Roedd y capel hwn yn arfer sefyll wrth ymyl y rhiw sy’n mynd o Drefach i Saron a gyferbyn a mynwent Capel Bethel Drefach. Ond, yn 1953 symudwyd yr adeilad i Amgueddfa Werin Sain Ffagan yng Nghaerdydd. Yno y saif yn awr ac mewn cyflwr da.
O dudalen 217 ymlaen yn ei lyfr Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr mae Daniel Jones yn rhoi hanes llawn i ni o ddatblygiad yr Undodiaid yn y cylch ers 1777 gan gynnwys rhestr o’r gweinidogion a fu ym Mhenrhiw. Ysgrifennodd y Parchedig DJ Goronwy Evans Hanes Capel Penrhiw. Mae’r fynwent yn dal yno a chofeb yn nodi’r fan lle safai’r capel.
-
Gweler y ddwy erthygl gan Peter Hughes Griffiths yn rhoi mwy o hanes yr achos ac am symud Capel Penrhiw i’r Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan.
-
Yn y fynwent ym Mhenrhiw y claddwyd Daniel Jones awdur y gyfrol Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr.
-
Mae mwy o luniau Capel Clos-y-Graig ar y wefan Casgliad y Werin.


Anerchiad yng Nghapel Penrhiw 2yp Dydd Sul Mehefin 18ed 2023
Profiad hyfryd a llawn atgofion i fi yw cael bod yma yng Nghapel Penrhiw – unwaith eto, ac rwy’n dweud unwaith eto achos pan oeddwn i yn grwt rwy’n cofio mynd gyda mam i wasanaethau yn y capel hwn pan o’n i yn byw yn Nrefach Felindre a hefyd yn y gwasanaeth olaf a gynhaliwyd cyn ei symud i Sain Ffagan – a sdim llawer ohono ni ar ôl erbyn hyn a all ddweud hynny!
Roedd mynd i’r capel dair gwaith y Sul mor gyffredin pan o’n i yn grwt. Gwasanaeth y bore – Ysgol Sul y prynhawn ac yna cwrdd nos. Ond, doedd dim Ysgol Sul ym mis Awst ac ar brynhawn Suliau yn yr haf roedd gwasanaeth ym Mhenrhiw, ac arferiad y pentrefwyr wedyn oedd ymuno yn y gwasanaeth ar brynhawn Sul o haf. A hynny rwy i’n gofio.
Doedd dim organ yno – organ ym mhob Capel arall, ac roedd rhywbeth mor arbennig – fel heddi yn dibynnu ar y ‘Codwr Canu’ i arwain pob emyn. (Pwy oedd Codwr Canu diwethaf Y Priordy?
Adeiladwyd y Capel gwreiddiol ym mlwyddyn y tair caib. Pa flwyddyn oedd honno – ie 1777, ac yna yn 1870 fe’i hadnewyddwyd i fod bron yn union fel ac yr oedd e yn 1953 (yn union 70 mlynedd yn ôl i eleni) pan y cafodd ei symud o Drefach Felindre i Sain Ffagan a’i agor yn 1956.
Rwy’n cofio’n iawn y gwrthwynebiad mawr yn lleol a’i symud e garreg wrth garreg, ac rwy’n cofio’n dda mynd i weld y gweithwyr wrthi a sylwi bo nhw wedi rhoi rhif ar bob carreg o gwmpas y drws a’r ffenestri fel bo nhw yn cael eu gosod yn yr un lle pan yn ail adeiladu.
Yn 1899 y cyhoeddwyd y llyfr hwn - fy ail Feibli!! Sef ‘Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr’ gan ŵr lleol o’r enw Daniel Jones – a dim ond yr wythnos hon rwyf fi wedi bod wrth yn ysgrifennu hanes bywyd Daniel Jones i roi ar Wefan ‘Stori Fawr Drefach Felindre’. Yn hwn mae hanes manwl Capel Penrhiw sydd yn Gapel yr Undodiaid wrth gwrs – bron yn ymyl yr hyn sy’n cael ei alw ‘Y Smotyn Du’ sef rhwng Llambed a Llandysul – ond mae Capeli Undodaidd eraill heb fod ymhell.
Ble mae adeilad Capel yr Undodiaid yn nhref Caerfyrddin? Wrth ddod mas o’r Farchnad i Heol Mansel – sydd nawr yn ddeintyddfa yn syth ar y chwith ac mae nhw wedi cadw y ffasad tu allan a thu mewn a da iawn hynny.
Beth mae Daniel Jones yn dweud am Gapel Penrhiw yn 1899 pan ysgrifennodd e y llyfr .... “Saif yr addoldy hwn mewn mangre dawel yn ymyl Drefach, ar ochr y rhiw sydd yn arwain o’r lle hwnnw i Saron. ( Egluro ble!) “ I’r cefn iddo mae mynwent fechan ac ywen dewfrig yn cysgodi’r ‘fan fechan hedd’. Mae’r capel oddi fewn ac oddi allan yn ddiaddurn ac hen ffasiwn ac yn anghysurus i gynulleidfa eistedd ynddo.”
Yn ei lyfr 'Crwydro Sir Gar' mae pennod gan Aneurin Talfan Davies gyda’r teitl ‘Lle Bum yn Chwarae Gynt’ achos yn Nrefach Felindre y cafodd e ei eni a’i dad yn Weinidog ar Gapel Closygraig. Mae e’n rhoi sylw i Gapel Penrhiw hefyd ac yn son am y ‘split’ a fuodd. Medde fe-
“Canlyniad dadleuon diwynyddol rhwng yr Arminiaid a’r Calfiniaid yng Ngfhapel Drefach yn y ddeunawfed ganrif oedd sefydlu’r achos ym Mhenrhiw.
Ymadawodd y garfan Arminaidd a Chapel Drefach ac am 20 mlynedd a buont yn cynnal eu gwasanaethau dan gysgod derwen fawr gerllaw y lle y saif Capel Penrhiw. Ac roedd Thomas Jams (Twm Warden) yn flaenllaw ym Mhenrhiw - ac fel hyn y canodd y Bedyddwyr amdano -
Cwpwl bach sy ym Mhenrhiw
Yn gwadu nad yw Crist yn Dduw,
Onid yw’n drueni trist
Fod Twn Warden heb un Crist.
A dyma Twm yn ateb (Egluro Pwll y Rhod Ddŵr)
Nid oes son ym Meibl Crist
Am drochu dyn dros ei ben a’i glust,
Ni ddywedodd Crist eriod
Am daflu dyn i Bwll y Rhod.
Fe wyddon ni wrth gwrs am sawl gweinidog ein cyfnod ni gyda’r Undodiaid - y diweddar Cen Llwyd a’r presennol DJ Goronwy Evans Llambed a’r anfarwol D JACOB DAVIES – Awdur Can Genedlaethol Merched y Wawr ac a fu yn Llywydd Cynulliad Cenedlaethol yr Undodiaid trwy Brydain. Y Parch Eric Jones yn Aberdar....
Mae’n werth nodi hefyd - does dim enwau ysgrythurol ar gapeli’r Undodiaid - Penrhiw, Llwyn rhyd Owen, Alltyblaca, Pantydefaid, Bwlch y Fadfa, Hen Dy Cardd yn Aberdar a Brondeifi yn Llambed. Tybed a oes esboniad?
Mae’r fynwent fechan yn dal yno yn Nrefach Felindre ac Undodwr oedd awdur y llyfr hwn Daniel Jones ac yno y claddwyd ef yn 1941.
Mae un garreg fedd yno i Benjamin Thomas yn 1823 -
Myfi yw’r cyntaf dan y don
I orphwys yn y fynwent hon,
Cofiwch chithau bawb ‘run wedd
Y dewch i gyd o’r byd i’r bedd.
Yno hefyd y claddwyd Myfyr Emlyn - darlithydd ffraeth ei gyfnod ac awdur a chofiannydd Dafydd Ifans Ffynnonhenri.
Ac mae carreg fedd arall gwerth ei nodi -
Er serchus gof am John Jones Glanbarod Drefach a’i deulu ac am ei ferch Mary Hannah Thomas a’i phriod a suddwyd yn y Lucitania Mai 7ed 1915 a’r pennill wedyn -
Ti fedd dorrwr - cymer rybydd
Gad weddillion rhain yn llonydd.
Teilwng iddynt yw llonyddwch
Ar ôl lludded yr anialwch.
Collwyd 1200 o fywydau yn y drychineb - torpido 11 milltir o Iwerddon.
Cafodd corff Ernest ei gwr ei ganfod ac fe’i claddwyd yn Cork Yr Iwerddon, ond ni ddaethpwyd o hyd i gorff Hannah Thomas. Ond mae’r coffa amdani ar y garreg fedd ym Mynwent Penrhiw.
Nethon nhw ddim symud y fynwent!!! Ond, tu ôl i’r Capel hwn yn Sain Ffagan mae UN BEDD ac UN CARREG FEDD i Iorwerth Cyfeiliog Peate y person a gafodd y weledigaeth fawr i sefydlu’r Amgueddfa Werin Genedlaethol hon yn 1948 a dod a Phenrhiw yma ymhlith yr adeiladau cyntaf. A’i ddymuniad oedd cael ei gladdu ym mynwent Penrhiw yma yn Sain Ffagan.
Mae’n brofiad arbennig i fod mewn oedfa yma yng Nghapel Penrhiw - unwaith eto, a diolch am gael ail fyw y profiad hyfryd hwnnw.