Stori Fawr Dre-fach Felindre

​Am orig i Gwmhiraeth

Byddai’n dda darllen y bennod ‘Y Lle Bum yn Gware Gynt’ yn y llyfr ‘Crwydro Sir Gar’ gan Aneurin Talfan Davies cyn cychwyn ar y daith i Gwmhiraeth.

Dyma fi Peter Hughes Griffiths yn mynd ar fy nhaith olaf o ganol pentref Felindre i’r gwahanol bentrefi bychain sydd yn ymyl. Cofiwch mai taith yw hon sy’n llawn atgofion am y cyfnod pan oeddwn i yn blentyn ac yn ŵr ifanc ac yn byw yn lleol o’r 40’au i’r 70’au o’r  20ed ganrif.  Y tro hwn i bentref Cwmhiraeth yr awn ni gan gychwyn o Sgwâr y Gat yng nghanol Felindre.

Wrth gadw i’r chwith gyda wal mynwent Eglwys Sant Barnabas byddai’n dda taflu llygaid cyflym dros y wal gan fod cerrig beddau Teulu’r Lovells, y Sipswn teithiol olaf yno.
Cychwyn wedyn fyny Rhiwcoyon am Gwmhiraeth, ac ar y dde roedd y bwthyn bach Danrhiw ble roedd Mari Morgan a’u bechgyn Leslie a John Morgan yn byw. Roedd Leslie yn hyn na fi a John ychydig yn iau na fi ac mae llun o John ar dudalen 113 o’r llyfr Canrif o Luniau fel aelod o dim snwcer neuadd y Ddraig Goch. Roedd John yn chwaraewr snwcer campus. Y cof sydd gen i am John yw ei fod yn medru chwarae’r gitâr yn dda, hynny yn beth anghyffredin yn lleol y cyfnod hwnnw, ac iddo sefydlu grŵp pop. Mae’n debyg ei fod yn chwarae ac yn canu i ddiddori’r teithwyr ar y llongau o Abergwuan i Rosslare yn Iwerddon. Bu farw John rhyw ddwy flynedd yn ôl, ac mae ei fab yn dal i fyw yn y pentref o hyd. Bu farw ei frawd Leslie rhai blynyddoedd cyn hynny.

Tim dartiau
Tîm Snwcer Neuadd y Ddraig Goch - Pencampwyr cyntaf Cynghrair Snwcer Ceredgion. O'r chwith: Rhys Davies, Alun Jones, Gordon Evans, Eirwyn Evans, John Morgan.

O ddringo rhiw Coyon mae tri thy ar y gornel cyntaf, a’r un ar y dde yw Penrhiwcoyon.  Yno roedd Mrs Hannah Davies yn byw gyda’i merch Reifiona.   Mae llun o Mrs Davies ar dudalen 64 o’r llyfr Canrif o Luniau, a hi yw’r cyntaf ar y chwith sy’n sefyll yn y cefn. Hi oedd glanhawraig Ysgol Gynradd Penboyr a does dim cof gen i gwbl o hanes y ferch Reifiona, er ei henw hyfryd ac anarferol.

Mae mynedfa i’r fferm Goetre Uchaf wrth dalcen tŷ Penriwcoyon. Y cof clir sydd gen i yw am ‘Esau Goetre’ sef Esau Evans a oedd yn byw yno gyda’i ferch Hannah a’i gwr Rees Jones. Merch arall iddo oedd Sarah Jones Trecoed, a wnaeth cymaint yn y maes cerddorol i’r ardal. (Mae ei hanes hi o dan ‘Enwogion a Phobl Leol’ ar wefan Stori Fawr Drefach Felindre.)  Ei mab hi Richard sy’n byw yn Goetre Uchaf  nawr gyda’i wraig Marian. Mae eu merched Mari a Gwenno yn byw ac yn gweithio yn Aberystwyth.  Cyrhaeddodd Esau Evans ei gant oed, ac mae lluniau ohono ar wefan Stori Fawr Drefach Felindre.  Rwy’n cofio rhywun yn dweud bod Esau Goetre wedi bod yn athletwr da iawn ac yn arbenigo ar ‘ y naid polyn.’ Pan yn grwt cofiaf fy nhad yn dweud wrtha i am y tro sydd ar y ffordd rhwng Cwmduad a Chynwyl Elfed, ac mai ‘tro Esau’ oedd yr enw arno, am i Esau Goetre fethu troi’r tro hwnnw yn ei gar, ac iddo fynd dros y clawdd i’r cae. Bob tro y byddaf i yn gyrru ar y ffordd honno bellach a phasio’r fan honno rwy’n cofio am ‘Esau’r Goetre.’

Ar dudalen 141 o’r llyfr Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr gan Daniel Jones  mae gwybodaeth ychwanegol am ‘Goitre’, ac sy’n cynnwys hefyd hanes y teulu ‘Hindes’ a ddaeth i fyw i’r ardal o Kirby, yn swydd Lincoln tua’r flwyddyn 1794. Dyma ddyfyniad o’r llyfr –  “Meibion William Hindes ydyw William Hindes, mysnachydd Felindre a Robert Hindes. Yn llyfrgell William Hindes gwelir dau feibl destlus, ac un  ohonynt (argraffedig yng Nghaerfyrddin gan John Ross 1807) ... ac un arall ‘argraffedig yn y Clarendon Press Oxford,’   *O edrych ar dudalen 48 yn y llyfr  Canrif o Luniau fe welwch William Hindes yn sefyll o flaen ei siop yng nghanol pentref Felindre. Er mai Emlyn House oedd yr enw ar y siop yn y pedwar a’r pumdegau yr 20ed ganrif, roedd rhai yn dal i alw’r lle yn  ‘Siop Hindes’ y pryd hwnnw.    ‘Sgwn i beth ddigwyddodd i’r ddau Feibl?    Priododd Evan Powell, a ddaeth yn brifathro Ysgol Penboyr yn fy nghyfnod i, gyda merch William Hindes a byw yn Emlyn House. Collodd Evan Powell a’i wraig fab o’r enw Bobby pan yn faban, ac fe ddaeth llinach y teulu Hindes i ben yn Felindre. ‘Kirby House’ oedd yr enw ar y tŷ nesaf at Emlyn House. Y tŷ wedi ei enwi gan fod teulu Hindes wedi dod o Kirby yn swydd Lincoln.

siop William Hindes tua 1920
Siop William Hindes yn Felindre tua 1920

Wrth barhau fyny Rhiw Coyon am  Gwmhiraeth mae yna ffordd yn troi i’r chwith i gyfeiriad fferm Pantyrhebog ac i fyny i’r topiau.  Fe fyddwn ni yn dod lawr yr heol hon wrth wneud y cylch ar y ffordd yn ôl o’r topie ar ôl mynd trwy Gwmhiraeth.

Cofiaf am gae ar y chwith wedyn ble bu tim pel droed Bargod Rangers yn chwarae am dymor neu ddau yn ystod y 1940’au. Y rheswm rwy’n cofio am hyn yw’r ffaith bod llun gen i o’r tim pan yn chwarae yn y fan hon ac yn y cefndir mae llun ohona i  yn blentyn tua saith mlwydd oed. Hwn oedd y tymor, 1946-47 fe enillodd tim Bargod Rangers bencampwriaeth Cynghrair Ceredigion. Mae gan Eifion Davies hen fedalau a enillodd tim Bargod Rangers ac un ohonyn nhw yw’r fedal ac arni ‘Bargod Rangers, League Champion, Ieuan Jones - 1946-47.’  Ieuan Jones, Glanpownd, Drefelin oedd y Ieuan Jones hwn. Dim ond yn ddiweddar y bu farw Ieuan a’i wraig ar ôl byw yn Llandysul. Bydd Eifion yn trosglwyddo’r medalau i’r amgueddfa yn Yr Amgueddfa Wlan Genedlaethol yn Nrefach.

Nodwedd arbennig pentref Cwmhiraeth yw fod cymaint o enwau adar ar y tai a’r ffermydd. Sylwch ar hyn wrth i ni  fynd ar ein taith.

Mae’r troad nesaf ar y dde yn eich arwain lawr i Bantybarcud, ac yno roedd Elda Williams yn byw a hithau yr un oed a fi. Roedd Elda a finne yn perthyn i’r ‘Velindre Children’s Party’ o dan arweiniad Mrs Maldwyn Williams perchnogion Ffatri’r Dyffryn ar y pryd a Mrs Sarah Jones Trecoed (mam Richard Jones Goetre Uchaf yn awr). Roedd y parti yn mynd i gynnal cyngherddau ar hyd a lled y wlad. Mae gen i gopi o raglen o Gyngerdd Noson Carnifal Llandudoch, ac ynddo  mae’n nodi  eitem  ‘Duet – Peter and Elda – ‘Madam Will You Walk’.  Mae Elda yn byw nawr yn ymyl Llwyndafydd yn Saron, ac fe gollodd hi ei merch Undeg yn ystod pandemic y Cofid yn haf 2020 a hithau’n byw yn Efailwen.  Rwy’n cofio Evan Pantybarcud ac Olwen ac Enid, dwy chwaer i Elda. Priododd Enid gyda Wendel Davies y gof a’i efail gyferbyn a Tŷ’r Lon, ac yn  byw yn  Glyncoed  gyferbyn a Neuadd y Ddraig Goch.   Roedd Ffatri Wlan enwog ym Mhantybarcud un amser a thadcu Alan Campden oedd ei pherchennog.

Mae’n werth cofnodi pwysigrwydd Pantybarcud yn hanesyddol hefyd.  Fe ddaeth Y Parchedig William Talfan Davies yn weinidog ifanc i Gapel Methodistiaid Closygraig yn 1903 ac fe briododd gyda Alice Jones, merch Panybarcud. Ganwyd eu mab Aneurin Talfan Davies tra yn byw ym mhentref Felindre, ond yn 1911, ac yntau ond dwy oed, fe symudodd y teulu i Gorseinon ger Abertawe, pan alwyd ar y tad i fod yn weinidog Capel Libanus yn y dref. Fe ddaeth Aneurin Talfan Davies yn berson blaenllaw yn hanes Cymru maes o law, ac yn ei lyfr Crwydro Sir Gar ysgrifennodd bennod gyfan am Drefach Felindre a Chwmhiraeth o dan y pennawd Y Lle bum yn gware gynt.  Mab iddo yw Geraint Talfan Davies, cyn reolwr y BBC yng Nghymru, a’i fab yntau Rhodri yw’r rheolwr presennol.

Yr hyn sydd yn fy nharo wrth i mi deithio yn haf 2021 i Gwmhiraeth, a minnau heb fod yno ers dros hanner canrif,   yw pa mor gul yw’r ffordd a pha mor gryf yw’r tyfiant ar y cloddiau gyda choed trwchus dros bob man, a cymaint yw’r pellter sydd rhwng Cwmhiraeth a phentref Drefach Felindre.

O fynd yn ein blaenau mae fforch yn y ffordd. Trown i’r dde o wybod y byddwn maes o law yn dod nol i ymuno a’r ffordd sy’n mynd syth yn ei blaen.

Ymhen ychydig dyma gyrraedd clwstwr o dai mewn pentref bychan clos. Y tŷ cyntaf yw Pant-y-Gog. Yma roedd Margaret, Dewi, Muriel a Bryan Davies yn byw ac yn blant i Katie a’i gwr Sam Davies..  (Mae llun o Katie Davies ar dudalen 64 o’r llyfr Canrif o Luniau. )   Bu Margaret yn briod a byw yn lleol trwy gydol ei hoes. Mae Barrie ei mab yn byw ym Mronwydd, yn ymyl Caerfyrddin, ac wedi ymddeol ar ôl bod yn gweithio i’r Cyngor Sir. Bu Dewi yn athro yn Rhuthun Sir Ddinbych. Priododd Muriel gyda Noel a byw yn Aberteifi lle bu hi’n gweithio yn y banc yno. Hi yw’r unig un o’r teulu sydd ar ôl bellach.   Blwyddyn yn hyn na fi oedd Thomas Bryan Davies y brawd arall, ac fe ddes i yn ffrind iddo yn yr ysgol ac yn y chweched dosbarth yn Ysgol Ramadeg Llandysul. Gorfod i Bryan ddod nol i’r chweched am y drydedd flwyddyn gan iddo fethu eistedd yr arholiadau ar ddiwedd yr ail flwyddyn oherwydd iddo dorri ei goes yn ddrwg ar ôl damwain ar y ffordd mewn fan.        Fe benderfynodd criw o fechgyn o’r ardal fynd gyda ‘Graham Tŷ’r Lon’ yn gyrru mewn fan i Ffair Crymych. Yn wir, roeddwn i yn un o rheini oedd yn bwriadu mynd gyda nhw, ond am rhyw reswm wnes i ddim llwyddo i gyrraedd y man cychwyn mewn pryd. Beth bynnag, ar y ffordd adref, a rhwng Boncath ac Abercych fe fethodd Graham gymryd y tro ac fe aeth y fan i ben y clawdd a throi trosodd sawl gwaith – gyda’r canlyniad i Bryan Pantygog, yn fwy na neb, gael niwed drwg a thorri ei goes a gorfod bod yn yr ysbyty am hir, a cholli ei arholiadau Lefel A. Fe wellodd yn ddigon da i chware gyda Bargod Rangers maes o law a graddio mewn Hanes yn y Brifysgol. Galwai ei ffrindiau agos ef wrth ei enw cyntaf -  ‘Tomos,’ yn hytrach na Bryan.

Fe ddaeth Bryan yn Swyddog Addysg Uwch i Gyngor Sir Dyfed, wedi ei leoli yn y brif swyddfa addysg ym Mhibwrlwyd Caerfyrddin. Un o’i hoff bleserau oedd i gadw’n heini trwy redeg ar y ffordd a thraws gwlad. Ar un bore, ac yntau’n rhedeg ger ei gartref yn Llandyfriog, Castell Newydd Emlyn fe syrthiodd yn farw. Claddwyd ef ym mynwent Eglwys Sant Llawddog, Penboyr. Roeddwn i yn bresennol yn y cynhebrwng mawr iawn hwnnw.   Wrth ymweld a’r fynwent honno yn ystod yr Haf 2021, ac wrth sefyll ger ei fedd fe lifodd llawer o atgofion melys iawn yn ol am gyfaill annwyl iawn a gollwyd yn llawer rhy ifanc.  Merch iddo yw Branwen Davies awdur y llyfr lliwgar Melinau Gwlân. Fe ysgrifennodd hi’r llyfr ‘Er cof am Dad, Bryan Pant-y-gog’.  Mae’n gyfrol dra phwysig am hanes ein prif felinau gwlân yng Nghymru gan gynnwys rhai lleol i ardal Drefach Felindre hefyd.

 O droi i’r dde wrh Pantygog mae yna ffordd ddigon gwael erbyn hyn yn arwain nol i gyfeiriad Pantybarcud ac yno mae lle pwysig iawn, sef Perthiteg.  Yma, roedd dwy ferch ddeniadol iawn yn byw – er ychydig yn hyn na fi. Rwy’n cofio yn glir am ‘Bessie a Gwyneth, Perthiteg.’  Mae gen i lun o Bessie yn ei gwisg urddasol yn frenhines Carnifal Enwog Caerfyrddin, ac yn sefyll wrth ymyl fy ngwely pan oeddwn yn Ysbyty Glangwili, yn nyddiau y cabanau sinc gyda’r to crwn, a minnau yn naw oed yn dioddef o’r ‘riwmatc fever’.  Rwy’n trysori’r llun hwn.

Ond, mae rheswm arall pan fod Perthiteg, Cwmhiraeth yn le nodedig ar ddechrau’r 20ed ganrif achos un o feibion Eben Evans, Perthiteg oedd y cerddor dawnus Albert Evans – un o’r cerddorion gorau a welodd y fro.  Rwyf wedi cofnodi ei hanes o dan adran ‘Enwogion a Phobl Leol’ ar wefan Stori Fawr Drefach Felindre. Roedd gan Albert Evans llawer o frodyr, a mab un ohonyn nhw oedd John Albert Evans, Caerdydd, sef un a wnaeth cymaint o waith diflino gyda dysgwyr y Gymraeg. Mae’n werth darllen hanes Albert Evans a’i ddoniau cerddorol.

Yn ymyl mae Dinas, cartref Marina a’i chwaer Bethan. Fe soniais amdanyn nhw wrth son am Maesyberllan ar ddechrau’r daith o Sgwâr y Gat i Waungilwen.

Yn y clwstwr tai wedyn mae Gelli Deg, Tegfan, Nanteos a Pant-y-Wennol.  Mae llun o hen fwthyn Pant-y-wennol ar dudalen 21 o’r llyfr Canrif o Luniau.  Wrth sefyll yn ymyl Pant-y-wennol mae hen ffordd gart yn arwain lawr heibio i’r tŷ, ond wrth edrych ar draws y dyffryn fe welwch Pant-yr-efail yn glir. (Llun o Bantyrefail yn llyfr Aneurin Talfan Davies Crwydro Sir Gar ar dudalen 182.   Mae plac uwchben y drws erbyn hyn yn nodi cartref geni Griffith Jones).  Dyma un o gartrefi enwocaf Cymru achos yma y ganwyd Griffith Jones, Llanddowror. Mae ei hanes wedi ei gofnodi ar wefan Stori Fawr Drefach Felindre.  Heb os, trwy ei Ysgolion Cylchynol trwy Gymru gyfan fe ddysgodd y genedl i ddarllen yn y 18ed ganrif gan ddefnyddio y Beibl Cymraeg.  O ddilyn y lon lawr heibio Pant-y-Wennol  fe ddowch i lecyn agored ar lan afon Bran sy’n tarddi yn uwch i fyny’r cwm. Yma y ffilmiwyd yr olygfa o garafán y sipswn yn llosgi yn y ffilm ‘Tan ar y Comin’ gan T Llew Jones.  Mae llun o ddwy olygfa ar dudalen 120 a 121 o’r llyfr Canrif o Luniau.

Lle arall hynod o bwysig yn hanes ein gwlad mewn perthynas a diwedd y 19eg a dechrau’r 20ed ganrif oedd Frondeg.  Ganwyd y Dr. John Gomer Lewis ym Mhensarn, Drefach a symudodd y teulu i Lwynbedw (y tŷ lle’m ganwyd i) pan oedd y mab ond yn 5 oed. Sefydlodd  John  Lewis ei dad ffatri’r Dyffryn, ac fe ddaeth teulu’r Lewisiaid, Frondeg a’r disgynyddion gyda’r blaenaf yn niwydiant y ffatrïoedd gwlân lleol – Meiros a’r Cambrian.  Roedd Y Parch J Gomer Lewis yn berson enwog iawn yn ei gyfnod a’i arbenigrwydd oedd ei ddarlith fawr ar ‘Ffair Y Byd’ yn Chicago.  Bu Gomer Lewis farw yng nghartref ei chwaer yn Frondeg, Cwmhiraeth, yn 1914 ac mae llun ei angladd – y mwyaf a welodd yr ardal erioed ar dudalen 29 o’r llyfr Canrif o Luniau.

O deithio ymlaen trwy’r cwm mae’r ffordd yn uno unwaith eto gyda’r ffordd arall yn ymyl Delfan a Rhiwlas a Frondeg ar y dde.  (Wele’r nodiadau yn gynt am Frondeg)    Mae clwstwr o dai wedyn a rhaid i mi gyfaddef nad oedd yr enwau yn golygu fawr ddim i mi sef – Tŷ Gaeaf, Glannant, Sŵn y Lli a Ffynnon Las, Ffos y Fedwen, 1,2,3 Penbont a Glandwr.

Ond mae dwy fferm y cofiaf yn dda am y plant yn ysgol Penboyr tua’r un amser a fi, sef Gelligynnar Uchaf a Gelligynnar Isaf.   Roedd David Tom Griffiths ac Idris ei frawd a Mair  Elinora ei chwaer yn byw yn  Gelligynnar Uchaf a John a Ken ac Elgan Phillips yn byw yn y Gelligynnar arall.   Bu ‘Dai Twm’ Griffiths a fi yn eistedd gyda’n  gilydd yn nosbarth uchaf BD Rees yn Ysgol Penboyr, a thrist meddwl na welais fy nghyfaill annwyl un tro wedyn o’r hyn a allaf gofio. Mae stori am Dai Twm yn gwrthod bita cabej amser cinio yn Ysgol Penboyr a Mrs Davies Tŷ Gwyn yr athrawes a oedd yn gwneud yn siŵr fod pob plentyn yn bwyta popeth yn dweud wrtho “Bitwch y’ch cabej Defi Tom. Ma’ plant bach yn India yn starfo a bydden nhw ddigon balch i ga’l y’ch cabej chi i fita!”  Y stori yw i David Tom fynd adref a dweud hyn wrth ei dad. Y diwrnod wedyn dyma David Tom yn dod ac amlen gyda fe i’r ysgol a’i rhoi i Mrs Davies. “Beth yw hon?” holodd Mrs Davies, ac ateb Defi Tom oedd, “Mae Dat yn gweud, tro nesa bydd cabej amser cinio fe allwch chi roi cabej Defi Tom yn yr amlen hon a’i phostio i’r plant sy’n starfo yn yr India!”     Deallaf bod mab i Idris y brawd arall yn byw yn Waungilwen ac yn fecanic yng ngarej Washington James yng Nghenarth. Pan ddaeth Mair Elinora am y tro cyntaf yn fechan iawn i Ysgol Penboyr roedd hi yn ferch siaradus iawn. Ond, doedd hi ddim yn hoffi’r cinio ac yn gwrthod ei fwyta. Fy mam - Mrs Griffiths y Cook - oedd yng ngofal paratoi cinio i blant Ysgol Penboyr ar y pryd, ac yn gofidio nad oedd y ferch fach hon yn bwyta amser cinio. Gofynnodd fy mam iddi, “Beth yw’ch enw chi?”   “Mair Elinora Griffiths,” meddai’r fechan yn glir.  “A beth rych chi’n gael i ginio adref ‘te?” gofynnodd fy mam iddi.   “Cawl cig moch a ‘Bony Boy’ ar ei ôl e!” meddai Elinora.   Cafodd fy mam dipyn o syndod gan mai  ‘Bony Boy’ yw’r arwydd oedd ar flaen bocs o uwd (porridge), a dyna oedd hi yn ei gael i bwdin mae’n debyg!  Deallaf  bod Mair Elinora yn byw yn ardal Pencader bellach ac yn gorfod cael cymorth cadair olwyn i fynd o gwmpas.                              

 O deulu’r Phillips Gelligynnar Isaf bu farw John rhai blynyddoedd yn ôl ac mae Ken rwy’n deall yn byw yn ardal Llanon ac Elgan yn dal i ffermio adref.

Dyma ddringo rhiw serth a chul wedyn bob cam nes cyrraedd Cwmbran. Yr hen enw ar y rhiw hon yw Rhiw Wrach ac sy’n arwain i Bwlchydomen hefyd. Yr unig gof sydd gen i yw mai y teulu ‘Williams’ oedd yn byw yn Cwmbran, a bod Jos Williams a gadwai siop Hillside ym Mhentref Felindre yn fab Cwmbran. Roedd gan Jos ei gart bocs a phoni yn mynd o gwmpas y ffermydd i werthu ei nwyddau hefyd.  Plant Cwmbran wedyn oedd John ac Ann.

Gyferbyn a Chwmbran ac ychydig cyn dod allan i Bantybwlch mae’r ffermdy Bwlchydomen, eto yr un teulu a Williams Cwmbran. O’m safbwynt i yr oeddwn yn adnabod  Catherine Williams Bwlchydomen yn dda iawn a hithau flwyddyn yn hyn na fi. Roedden ni yng Ngholeg Y Drindod, Caerfyrddin yr un amser ac fe briododd gyda Donald Ramage o Sir Fon. Bu’r ddau yn athrawon yn y cylch cyn ymddeol ac mae nhw’n byw nawr yn Heol Caerfyrddin, Castell Newydd Emlyn. Hyfryd iawn yw cael bod yng nghwmni’r ddau o bryd i’w gilydd mewn rhai digwyddiadau yn ardal Drefach Felindre. Mae eu mab Gwion yn byw yng Nghaerfyrddin ac yn gweithio yng Ngholeg Y Drinod Dewi Sant a bu’n chwarae pel droed gyda Bargod Rangers. Cofiaf hefyd am  Gapel Bach y  Methodistiaid ym Mhantybwlch, ac mae tair ffordd wedyn i Treale o Bantybwlch – un lawr yr hewl fach i Gwmdu, a Treale yw’r fferm nesaf ar y dde. Mae ffordd arall hefyd i Treale o sgwâr Penrallt yn nes ymlaen ar ein taith.

Dyma droi’r car wedyn i gyfeiriad Maudland ar y brif-ffordd i Gaerfyrddin a heibio’r Felin Wynt Fawr. Ar y dde mae Mynydd Moelfre, sef y darn bryn uchaf ym mhlwyf Penboyr ac yn 1100 troedfedd yn uwch na’r mor. Teithio am rhyw filltir dda arall cyn troi i’r chwith,  ac ar y ffordd gul nol i gyfeiriad pentref Felindre a Chwmpengraig.  Rhaid cyfaddef bod fy ngwybodaeth ddaearyddol o’r llefydd ar y ffordd hon yn brin iawn, er fy mod yn fwy cyfarwydd  a enwau  rhai pobl oedd yn byw yno am eu bod yn yr ysgol tua’r un pryd a fi. Felly, dyma son am y llefydd hyn heb fod bob amser mewn unrhyw drefn ddaearyddol bendant.

Mae Pantybara  ar y dde a chofiaf am y mab ‘Glyn Panybara’ a’i wraig Esther. Merch iddyn nhw yw Rhiannon  sydd wedi bod yn weithgar iawn yn lleol ac yn byw yn awr ym Mryn Iwan.

Ar y ffordd lawr i Bantybara trowch i’r chwith i Llwynbeili.

 Yn groes i’r ffordd i’r fynedfa i Bantybara ar y chwith mae Blaenbran, a chartref ffrind da iawn i mi ar hyd fy oes sef ‘Einsley Harries – Einsley Blaenbran.’     Bellach mae Einsley yn byw yn ymyl Caerfyrddin ac yn noddwr Tim Pel Droed Caerfyrddin, ac rwyf yn ei weld  ar Barc Waundew, cartref Clwb Pel Droed y dref. Yn aml, bydd e’n son am ei daith ddyddiol o gerdded bob cam i Ysgol Penboyr ym mhentref Felindre a cherdded adref drachefn – pellter o oleiaf ddwy filltir a hanner. Gan mai fy mam oedd yng ngofal y gegin ac yn paratoi ein cinio ysgol soniodd Einsley am garedigrwydd fy mam. Os oedd hi’n ddiwrnod gwlyb ac yntau wedi ‘glwchi’n stecs’ ar ei ffordd i’r ysgol, byddai fy mam yn sychu ei ddillad wrth y stof fawr yn y gegin fel bod dillad sych ganddo wrth iddo gerdded am adref ar ddiwedd y prynhawn.             Mae llwyddiant masnachol Eisnley Harries trwy ei gwmni EH FACTORS, Penrhiwllan i’w edmygu’n fawr iawn. Einsley yw un o’r dynion busnes mwyaf llwyddiannus a welodd yr ardal erioed rwy’n siŵr, a’r person mwyaf hael y gwn i amdano, ac wedi noddi amrywiaeth eang o achosion da yn lleol. Mae ein dyled yn fawr i Einsley am ei garedigrwydd.  Bu’r ddau ohonom yn chwarae gyda Bargod Rangers ar yr un amser. Einsley weithiau yn y gol neu fel amddiffynnwr. Dyddiau da oedd rheini.  Wna i fyth anghofio’r hwyl a gawsom yng nghwmni ein gilydd. Rwy’n edmygu ‘Einsley Blaenbran’ yn fawr iawn.
Mae’n rhaid bod yr Afon Bran yn tarddu yn ymyl Blaenbran yn rhywle.

A nawr dyma ni ar sgwâr Penrallt a’r fferm ar y chwith.

Ar y topie hyn hefyd mae fferm Treale. Roedd Steven Jones Treale yn gymeriad arbennig iawn. Galwai pawb ef yn ‘Steve Bach Treale’, ac yn aml y cofiaf ef yn teithio lawr trwy Gwmpengraig ar ei  dractor – y  Ffyrgi Fach. Ond weithiau, roedd mwy o ofid ar y trigolion pan oedd Steve Bach ar ei ffordd adref, gan mae’n siŵr y byddai wedi galw am fwy nag un glasied yn nhafarn John y Gwas, a safon ei yrru, ymhell cyn dyddiau rheolau yfed a gyrru Barbara Castle, yn ofid i bawb. Yn rhyfeddol, ni fu damwain erioed ac ystyried ei fod yn gyrru fyny Rhiwfawr - y rhiw gul ac eithriadol o serth o Gapel Soar a heibio Pantyffynnon.     Sefydlodd Iori Jones ei fab fusnes prynu a gwerthu ceir llwyddiannus iawn yng Nghaerfyrddin ac mae’n byw yno o hyd. Roedd ganddo chwaer Rita. Ganwyd Tom Davies awdur y llyfr  Yn Fore i Felindre yn Nhreale yn 1901, ac mae ei lyfr yn rhoi darlun da i ni o fywyd yr ardal ac Ysgol Penboyrar ddechrau’r 20ed ganrif.

Cofiaf am Mary a Defi Tom Rees yn byw yn Derwig   ac fe wnaethon nhw ymddeol a dod i fyw i Cilgant Myrddin yn nhref Caerfyrddin. Yn  Crugcynfarch yn ymyl  roedd Fanw ac Eurig yn byw  gyda’u  mam Esther Mary a’u tad Dai.  Yn ôl Daniel Jones yn ei lyfr Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr roedd bardd yn byw yno ddechrau’r 19eg o’r enw David James – ‘Dewi Glan Uschwyrn’ ac yn enwog am ei bryddest ‘Pedr’. Mae  Penralltfach gerllaw.

Lle sy’n werth ei nodi yw Pantycrug (sydd yn ymyl Blaenbran)  lle’r oedd Lieutenent Colonel Norman Coates M.C. (Military Cross) - (1890 – 1966) yn byw. Bu farw ar 27ain Mawrth 1966 ac fe’i claddwyd ym mynwent Eglwys Sant Llawddog, Penboyr. Er nad oeddwn i yn ei gofio, rhaid i mi ddiolch i Eifion Davies, un o hoelion wyth y wefan Stori Fawr Drefach Felindre, am dynnu fy sylw at y person arbennig hwn. Rhaid nodi hefyd i Eifion fy nilyn i, rhai blynyddoedd wedyn, fel y postmon lleol i Gwmhiraeth a’r topie rhwng Cwmhiraeth a Chwmpengraig, ac mai ei atgofion yntau yn rhan o’r cynnwys hwn. Mae’n werth  edrych lan hanes milwrol a gwleidyddol y Lieutenent Colonel Norman Coates ar ei Wikipedia ac yn Who’s Who.   Bu ei wasanaeth milwrol yn un ryfeddol ac etholwyd ef yn Aelod Seneddol dros y Torïaid yn 1922 yn yr Isle of Ely am gyfnod byr iawn. Yn fuan wedyn fe aeth yn fethdalwr oherwydd ei ddulliau amheus o delio gyda phobl.    Sefydlodd ysgol wedyn yn Chichester hyd 1931. Yna, ar ddechrau’r ail ryfel byd bu Coates yng ngofal Rudolf Hess pan yn garcharor, ond ymhen amser fe’i symudwyd allan o’r gweithgareddau milwrol.   Pryd y daeth Coates i fyw i Bantycrug sy’n ansicr?  Ond yr hyn sy’n sicr yw iddo ddod i fyw i le cwbl anghysbell oddi wrth pob cysylltiad gyda’r awdurdodau milwrol swyddogol.   Mae Eifion yn cofio mynd a’i bensiwn milwrol misol iddo i Bantycrug pan yn bostmon 17 oed, gan gyfaddef ei fod dipyn o ofn y gwr rhyfedd hwn a’i acen ‘posh’ Saesneg – heb fod yn hawdd i fachgen cefn gwlad i siarad gyda fe!

Ry ni nawr ar y ffordd sy’n arwain lawr i gyfeiriad Cwmpengraig a heibio i Bantglas a Pantbach. Yna, mae Brynhyfryd ar y chwith ac yno roedd Eirlys, ffrind gorau Beti fy chwaer yn byw. Roedd ‘Eirlys Brynhyfryd’ yn enw cyfarwydd yn ein tŷ ni. Down wedyn i fferm Pantyffynnon lle’r oedd llawer o frodyr. Ond yr un rwyf yn ei gofio yn dda oedd Uran Pantyffynnon. Yn ol a gofiaf fe’i lladdwyd mewn damwain car rhwng Caerfyrddin a Chydweli ac yntau yn ŵr ifanc. Bu Elda Pantybarcud gynt a’i gwr yn ffermio ym Mhantyffynnon cyn ymddeol i Saron.

Down wedyn at Penrhiwfawr Uchaf ac Isaf.  Roedd’ Sarah Penrhiwfawr’ yn cerdded trwy Gwmpengraig yn aml a heibio ein tŷ ni yn Llyfnant ar ei ffordd lawr i, a nol o bentref Felindre. Yn rhyfedd iawn rwy’n cofio mynd i’w hangladd yng Nghapel Soar. Hon oedd angladd gyntaf y Parch WT Thomas ac yntau newydd ddod yn weinidog ar y capel a heb gael cyfle i ddod i adnabod ei bobl. Cofiaf ef yn dweud mai hon oedd yr angladd gyntaf iddo gynnal gwasanaeth angladdol ac yntau heb adnabod a chwrdd erioed a’r ymadawedig o gwbl. Yr hyn a wnaeth oedd egluro ystyr ei henw Sarah, sy’n golygu ‘tywysoges’. Creodd y Parch WT Thomas gryn argraff arnaf wrth egluro rhinweddau y dywysoges Sarah a minnau’n rhyw led wybod mai dynes addfwyn a dymunol ond tlawd iawn oedd hi.

A dyma ni hanner ffordd i lawr y rhiw serth a chul – Rhiwfawr, sy’n arwain o’r topie ar eich pen i Gwmpengraig a Chapel Soar yn y dyffryn. Ar y rhiw mae un tŷ bychan a elwir yn Pit. Y rheswm roeddwn i yn gyfarwydd a’r ty bychan hwn oedd gan mai yma roedd Sarah, chwaer i fy mamgu yn byw a hithau mewn oed teg.  Byddai fy mam a fi yn mynd lan ac ymweld a ‘Sarah Lan’ ambell brynhawn Sul, a chofiaf orfod dringo yr hen riw serth hon.  Roedd Sarah yn fodryb i fy mam ac wedi byw ar fferm Y Lan, hen gartref ein teulu, sydd nesaf at fferm Blaenbpowi a heb fod ymhell o’r Felin Wynt fawr newydd ychydig o Bantybwlch.  Collodd Sarah ei gwr Samuel yn ifanc gan adel dau blentyn – sef May (Tŷ Canol), Cwmpengraig ac Ynys y Coed ger Dyffryn wedyn, a Sami Groesffordd, Cilrhedyn. Emrys mab May fu’n ffermio’r Lan nes iddo ymddeol.  Mab Emrys ac Annie wedyn oedd Y Parch J Towyn Jones, Gweinidog Capel Heol Awst, Caerfyrddin. Felly, hen famgu i Towyn oedd Sarah Pit.

Yna, dyma gyrraedd Cwmpengraig, ac efail y gof ar y chwith, cyn cyrraedd y festri a’r Tŷ Capel.

‘Dafi Gof’ oedd y gof – David Evans, blaenor yng Nghapel Closygraig, a brawd i Jac y Gof, yr Efail ger y capel hwnnw ym mhentref Drefelin. Wyres i Dafi Gof, Cwmpengraig yw Meryl a fu’n rhedeg Gwesty Pant yr Athro, Llangain ger Caerfyrddin, ond sydd bellach wedi cael afiechyd blin iawn ac yn byw’n barhaol mewn cartref gofal yng Nghaerfyrddin. Susan oedd y chwaer arall a’u mham nhw yn ferch i Dafi Gof.

Dowch yn ôl i Sgwâr Penrallt,  sydd ar y topie, ac yn hytrach na throi i’r dde i gyfeiriad Cwmpengraig fe awn ni ymlaen yn syth ar y ffordd i gyfeiriad pentref Felindre.
Ar y dde, ar y ffordd lawr i’r fferm Penlangribyn mae Mynwent Capel Soar. Cofiaf yn dda mae’r arferiad oedd cynnal y gwasanaeth angladdol yng Nghapel Soar ac yna roedd cefflyl yn tynnu’r hers, a’r galarwyr yn dilyn fyny’r hen ffordd i gyfeiriad Penlangribyn. Troi i’r chwith hanner ffordd fyny’r llethr a thrwy’r coed nes dod allan ac i’r fynwent ar y top. Trafferthus iawn i bob teulu yn eu galar. Rhaid gofyn y cwestiwn – Pwy yn y byd benderfynodd osod mynwent mewn man mor drafferthus ac anghysbell?  Erbyn hyn, prin iawn yw’r claddedigaethau yno, ond mae mynediad iddi o’r ffordd sy’n arwain o’r topie i gyfeiriad pentref Felindre, sydd llawer hwylusach y dyddiau hyn.

Y prif fferm sydd ar ôl wedyn yw Pant yr Hebog  cyn cyrraedd nol i’r hewl sy’n mynd o bentref Felindre i Gwmhiraeth.   Emlyn Davies a’i wraig Annie (un o ferched Y Cryngae) oedd yn ffermio Panyrhebog. Eu plant oedd David a Christina.  Ar ôl marwolaeth Emlyn fe werthwyd y fferm a daeth David a’i fam i fyw i Garth y Prior, Caerfyrddin ac fe gefais i’r cyfle i ddod i’w hadnabod unwaith eto. John Francis – mab Ieuan Francis (Felindre House a Dandinas gynt) sy’n ffermio Pantyrhebog heddiw.

Fe ddaeth y daith hir  a chylchog trwy bentref Cwmhiraeth a lan i’r topie a nol ar y ffordd arall i ben. Sylweddolaf mai prin oedd fy ngwybodaeth am sawl lle, a go brin y gallaf  gredu i mi dreulio sawl haf yn mynd ar fy meic fel postmon ar yr union ffordd honno. Dylswn fod yn medru cofio llawer mwy, ond maddeuant os gwelwch yn dda gan fod o leiaf 65 mlynedd ers hynny.

Peter Hughes Griffiths Haf 2021.