PILGEN PENBOYR
Stori Nadolig gan John y Gwas
(Daethpwyd o hyd i’r erthygl hon ym mhapurau y diweddar Dr Leslie Baker Jones, Llainffald, a Dangribyn wedyn, gan Peter Hughes Griffiths).A’r ddaear ôll yn ei gwyn o dan Moelfre i ddoldiroedd culion glannau Bargod y gwelwyd Nadolig cynnar y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Dyma’r bore y tyrrai’r plwyfolion o wahanol gyfeiriadau i’r ‘Blygain’ neu’r ‘Bilgen’ yn Eglwys Sant Llawddog, Penboyr, erbyn pump o’r gloch. Teimlid naws traddodiadol y gorffennol pell drwy’r holl awyrgylch. Meddienid mwyafrif gan gywair
“Awn i’r bilgen bawb dan ganu
Neidio, dawnsio a llawenychu.”
Dan rym traddodiad teuluol y werin nid oedd colli’r Bilgen i fod. Teimlai pawb o’r plwyfolion fod yr hen arfer flynyddol yn eiddo cyffredinol iddynt hwy yn anad beth bynnag a fyddai eu proffes grefyddol. Mae’r Bilgen i bawb, ac yn wir, fel y gwelir, ceir gwedd o gyffredinolrwydd yn null ei dygiad ymlaen yr adeg hynny mewn carol a chan.
Daeth y Parch John Williams, curad Plwyf Llandyfriog ar gefn gaseg goch, yr ymffrostiai iddi gario’r efengyl i Benboyr am bymtheg mynedd. Yr oedd ef yn Ficer Llandyfriog, rheithor Llanfair-tref-helygen, a churad Penboyr. Rhaid ei fod wedi cychwyn yn fore iawn i fod ym Mhenboyr erbyn pump o’r gloch. Disgynai galw’r gloch mewn swyn a chfaredd ar glyboedd y bobl fel y deuent o gyfeiriad Bwlchydomen, Cilfforest, Y Cryngae, Y Ffrydiau, Penclawdd a Blaenbargoed a’r Gorllwyn, o ffermdy a bwthyn yn llawn asbri boreol. Treiddiau sain cloch Penboyr i gyrion pella’r plwyf yr amser yna. Ie, ‘Penboyr – cloch our’, medd yr hen rigwm. Tipyn yn dywyll oedd y llan, rwyd dyllog ar awr mor gynnar, ond yr oedd pob un a’r gannwyll yn ei law yn gwasgar llewyrch o oleuni o gongl i gongl. Wedi’r gwasanaeth o ddeuawd rhwng y ffeirid ac Ifan Thomas y clochydd, dyna’r Parch John Williams yn esgyn i’r uchaf o’r ‘three-decker’ ac yn annerch y bobl yn y geiriau hyn : “Nadolig llawen i chwi, annwyl gyfeillion. Dyma Bilgen arall yn ein gafael, a cheisiwch lawenydd Eglwys a bendith yr ŵyl i’ch dilyn gydol y flwyddyn a bydded i oleuni Bywyd y Baban o Fethlehem lewyrchu’ch bywyd mewn tangnefedd ac ewyllys da hyd i loywach nen”. Yn dilyn cafwyd rhyddid i bawb i ganu eu carolau. Dyma un o fechgyn Penlanfawr yn taro can ‘Yr hen Ficer’, ‘Awn i Fethlehem bawb dan ganu’, a phawb yn uno’n hwylus nes bo’r llan yn llawn miwsig o gor i gangell’ Yn dilyn dyma Deio Pistyll-gwyn, hen ŵr a drigai dan gysgod chwarel lechau Pantybara, a chryndod yn ei lais yn seinio’n lleddf-glwyfus:
Mae’m golwg yn pallu
Mae’m traed yn trymhau.
Mae’m danedd yn mallu
Bob yn un, bob yn ddau,
Mae’m cefn yn gwargymu,
Mae’m deupen ynghyd
Mae’r amser yn pwyso
I fi fynd o’r byd.
Cafwyd salm gan Edmwnd Prys ‘Dy Babell Di’, ac emyn Pantycelyn ‘Ymhlith holl ryfeddodau’r nef’. Gwr ieuanc Waunfawr a ganodd bennill dwys rybyddiol o waith Elis Wyn o Lasynys:
Chwychwi drafaelwyr mor a thud
A’r byd i gyd yn gyrru
Yn rhodd, a welsoch mewn un lle
Rhyw gongl gre’ rhag angau.
Dyma barti eto o ‘Lindre yn dechrau ‘Wele’r dydd yn gwawrio draw’. Wedi carol Huw Morris a ‘Pheraidd ganodd sêr y bore’, dyma ennyd o ddistawrwydd.. Yng nghanol y munudau distaw a’r disgwyl am y nesaf, dyna wyth o ferched ieuanc iachus a siriol yn symud ymlaen gan leoli eu hunain ar ffurf croes ger grisiau’r gangell, a phob un yn dal cannwyll oleuedig yn ei llaw, yn torri allan i ganu’n soniarus a chartrefol, fel y safent yn eu lleoliad prydferth, hoff emyn Morgan Rhys ‘Dyma geidwad i’r colledig’. Safai’r dorf ar eu traed yn yr hen gorau mawr megis wedi eu syfrdanu gan swyn y canu a ddylifai o ‘Groes y Goleu’. Gan sefyll o flaen yr allor datganodd yr offeiriad y fendith, ac wedi ‘Amen’ y clochydd ymwahanodd pawb i’w gwahanol gyfeiriadau.
Aeth Ifan Cwmdu a Saba Bwlchydomen heibio Hen Dreiale heb yngan nemor air. Dau gymeriad hynod iawn, Ifan yn hoff o rifo cylchoedd dawns y Tylwyth teg a’r Ddol Eigras, a Saba yn ei fwthyn dan loches Domen fawr yn darllen tynged a phlaned o........