Gwilym G Howells
Ganwyd Gwilym yn Parcesty, fferm fach ar gyrion Drefach, Felindre yn 1900. Bu yn gweithio yn Banc Lloyds gydol ei oes a thra oedd yn gweithio yn Newbridge fe gymerodd ddiddordeb mawr yn y tim rugby lleol gan gymryd droso fel ei trysorydd. Ar ôl blynyddoedd dychwelodd Gwilym i’r ardal ei febyd fel rheolwr bank Lloyd's yn Llandyssul a Chastell Newydd Emlyn.
Dychwelodd Gwilym i Drefach lle bu e a'i wraig Nesta (merch i fferm Ty hen, Penboyr) yn byw yn Armerydd tan ei farwolaeth yn 1977 yn 77 oed. Claddwyd Gwilym yn mynwent Eglwys St Barnabus, Drefach Felindre.
CYNHAEAF GWAIR SLAWER DYDD
Ar ganol mis Mehefin fel arfer bob blwyddyn 'roedd son a siarad am ddechrau'r cynhaeaf gwair gartref yn Parkesty. Cyn mentro ar y gwaith o ladd gwair, yr oedd yn rhaid i'r 'glass' i fynd lan, y gwynt i fod yn y man iawn, a'r 'weather forecast i ddweud fod 'anti- cyclone is situated over the British Isles.'
'Anti-cyclone', dyna ddau air twp i ddisgrifio tywydd teg! Os oedd y tri peth hyn yn ffafriol byddai nhad yn mynd yn syth lan i Cefnllechclawdd i ofyn i Mr. Griffith Davies i ddod i dorri'r gwair ac yntau yn addaw dod y bore canlynol.
Yr oedd yna awyrgylch bywiog iawn pan oedd y ceffylau a'r 'machine' lladd gwair wedi cyrraedd y clos; wrth gwrs 'roedd Nhad wedi bod yn brysur yn torri rownd y cloddiau yn barod, a 'nawr dyma gychwyn y gwaith o 'ladd gwair'. Dau gae oedd i dorri ond yr oedd campwaith a chrefft i arwain a gweithio'r ceffylau cryfion ar ddiwrnod twym o Haf. Wedi cwblhau y gwaith o dorri, nid oedd dim arall i wneud ond byw mewn gobaith bod y tywydd yn parhau i fod yn braf yn ystod y diwrnodau canlynol. Y noswaith hynny, gwyddwn fod Nhad eto yn astudio cyfeiriad y gwynt a gwrando ar hanes y tywydd ar y diwifr.
Hyfryd oedd dihuno bore trannoeth gyda'r tywydd yn braf a ffenestr fy ystafell wely ar agored lled y pen, ac arogl gwair newydd ei dorri yn llanw'r ystafell. Gwaith y diwrnodau nesaf oedd trin, troi a sgwaru'r gwair er mwyn iddo sychu; a byddai llawer o ffrindiau o bentref Drefach yn dod draw i roddi help llaw. Byddai Mam yn gofyn imi roddi'r enwau lawr er mwyn iddi gael talu nôl am helpu a'r gwair.
Pan fyddai'r gwair yn barod i'w hel fewn cofiaf am Mr. John Evans, Pensarn, ac eraill yn cyrraedd gyda chart a cheffyl; Nhad yn barod i gael sgwrs a mwgin bach ond 'roedd uncwl Sam am fynd ymlaen â'r gwaith heb oedi dim.
Byddai'r bechgyn cryfaf yn llwytho yn y cae a'r dynion yn yr ydlan, y merched a'r gwragedd fyddai yn crafu'r gwair ar y cae yn dilyn y llwythi. Bob blwyddyn yr oedd cymanfa o weithwyr gennym pobun yn dod a rhaca neu picwarch ei hunan. Llawer tro y clywais Mam yn gofyn – A ei di draw i'r siop i hol rhagor o 'York Ham' a tin mawr o “Salmon”. Hefyd yn ystod y dydd byddwn yn mynd o amgylch y cae gyda stênaid o laeth enwyn neu “ginger beer” i dorri syched y gweithwyr.
Nes ymlaen gwelwn fasgedaid mawr o fwyd yn cael ei gludo i'r cae a sawl ystenaid o de; y llestri gorau yn cael eu defnyddio a'r dorf o gymwynaswyr yn eistedd mewn man cysgodol i fwynhau y bwyd blasus. Cofiaf am hwn ar llall yn adrodd storiau difyrrus a phawb yn hwylus dros ben. Ail gydio yn y gwaith ar ôl te eto a phob un mor falch fod y tywydd yn dal yn braf; dyna fwynhad oedd gweld y llwyth
diwethaf yn 'dod i mewn'. Byddai pobl y pentref wedyn yn dychwelyd i'w cartrefi yr olaf wrth gwrs oedd wncwl Sam, yn smocio ei bib ac yn edrych yn bles ar llwyddiant y diwrnod.
Yr wythnosau ar ol hyn byddai Mam yn corddi a gwneud ymenyn, a'r powndi yn cael eu dosbarthu i dalu'r ffrindiau caredig am eu cymorth yn ystod y cynhaeaf gwair.
Dyma gyfnod pleserus mewn amaethyddiaeth oedd hwn, pan oeddem yn dibynnu cymaint ar ein cymdogion da a diflino. Hyfryd yw cofio yr hen amser hapus ond hiraethus yw ystyried a dweud nad oes llawer o'r hen gymdogion ar ol erbyn hyn.
G.G.H.
